Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
(5 munud)
NDM7826 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
6 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23
(30 munud)
NDM7830 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau
ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd
Ymateb Comisiwn y Senedd
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru)
(60 munud)
NDM7813 Peter Fox (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
8 Dadl Plaid Cymru – Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig Covid-19
(60 munud)
NDM7827 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;
c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.
2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548 miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19.
Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar sail ddi-elw.
Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn mis Mehefin 2022.
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7829 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cladin wal allanol: unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2021